Croeso I safle wê y Ganolfan Dechnoleg Amgen.

Un o brif amcanion y ganolfan yw ysbrydoli, addysgu a galluogi ffyrdd o fyw mwy cynhaliol.

Yn dilyn agor i’r cyhoedd ym 1975, datblygodd yn gyflym fel canolfan arddangos arloesol ac unigryw, yn arddangos atebion ymarferol i nifer o broblemau amgylcheddol y byd. Pum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, gyda’i staff o drideg o amgylcheddwyr profiadol, a dros 80,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gellir dyfarnu’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn arweinydd ymysg Eco-ganolfannau Ewrop.

Yn ogystal â bod yn ganolfan addysgiadol ac arddangosiadol, y mae’r ganolfan yn ddarparwr ymchwil a gwybodaeth, yn cynnig syniadau ymarferol ar dechnoleg a ffyrdd o fyw amgylcheddol diogel. Ar y safle presennol wyth erw, ceir arddangosfeydd byw o bwêr gwynt, dwr, a haul, yn ogystal ac enghreifftiau o adeiladu ynni isel, tyfu organig, gwrteithio, a systemau carffosiaeth amgen. Ymysg yr adnoddau a ddarperir i blant ysgol, ceir trafodaethau rhagarweiniol a theithiau tywysgiedig. Gellir aros hefyd yn yr Eco-gabannau ar ymweliadau preswyl. Darperir amrywiaeth o gyrsiau preswyl poblogaidd drwy gydol y flwyddyn ar ystod eang o bynciau yn ymwneud â ynni adnewyddol a gweithgareddau hamdden.

Y mae Gwasanaeth Wybodaeth y ganolfan yn cynnig gwybodaeth a chyfeiriadaeth sylfaenol di-dâl ar bob agwedd o dechnoleg cynhaliol, gan greu sylfaen i ymchwil pellach. I’r unigolion a’r sefydliadau a fynnant wybodaeth ar gynlluniau mwy penodol serch hyn, cynnigir Gwasanaeth Ymgynghorol Broffesiynol y ganolfan.

Gellir darganfod amrywiaeth eang o adnoddau o fewn Cyhoeddiadau’r ganolfan, gan gynnwys cyngor ymarferol a defnyddiol gan unigolion hyddysg ym maes technoleg amgen. Ymysg cyhoeddiadau’r ganolfan a ellir eu darganfod ar y wê, ceir llyfrau a llyfrynnau, taflenni gwybodaeth a thaflenni awgrym, a chyfeirlyfrau a theitlau addysgiadol. Dylid nodi’n ogystal nad cyhoeddiadau’r ganolfan yn unig a ellir eu harchebu drwy eu gwasanaeth ‘archeb-bost’. Darperir hefyd restr o deitlau ac anrhegion ysbrydoledig i gwsmeriaid led-led y byd.

Y mae’r Gymdeithas Dechnoleg Amgen yn sefydliad sy’n cefnogi gwaith y Ganolfan, gan gynnig hefyd rwydwaith o gefnogaeth i unigolion a sefydliadau tebyg sy’n ymgeisio’n hyderus i fyw bywyd mwy gwyrdd a chynhaliol. Yn ogystal â chynnal cynhadledd flynyddol i drafod pynciau cyfoes pwysig, dosberthir cylchgrawn y ganolfan, ‘Clean Slate’i aelodau bedair gwaith y flwyddyn.

Y mae gwaith a phrofiad arloesol y ganolfan wedi bod yn ysbrydoliaeth i filiynnau o bobl led led y byd, boed hwy’n dwristiaid, pobl fusnes ryngwladol neu’n wleidyddwyr. Gellir hyd yn oed ymweld â ni dros y wê, drwy fodd yr ‘on-line virtual tour’.

Yn anffodus, y mae gweddill y safle wê yn yr iaith Saesneg.

Fel elusern, dibynna’r ganolfan ar ei haelodau a’i chefnogwyr led-led y byd er mwyn cynnal ei gwaith anhepgor. Am unrhyw wybodaeth pellach ynghylch cyfrannu, ymaelodi, neu wasanaethau a gweithgareddau’r ganolfan, peidiwch oedi a chysylltu â ni;

Y Ganolfan Dechnoleg Amgen,

Machynlleth,

Powys,

Cymru

SY20 9AZ

Ffôn: +44 (0) 1654 702400

Ffacs: +44 (0) 1654 702782

e.bost: info@cat.org.uk