Gweithgareddau i’r Teulu
Mae digon o hwyl i’r teulu cyfan yn CyDA! Gallwch ddiddanu a chreu diddordeb yn hyd yn oed aelod ieuengaf y teulu wrth ddarganfod sut y gallwn gydweithio i greu dyfodol gwell a mwy cynaliadwy.
Archwilio ein coedwigoedd a’n tir ac ymgysylltu â natur. Ac i aelodau o’r teulu sydd angen math arall o ymgysylltu, mae Wi-Fi ar gael ar draws y rhan fwyaf o’r safle.
Mynnwch bicnic ac archwiliwch erddi a choedwigoedd gwyllt CyDA er mwyn darganfod cornel cyfrin ar gyfer mwynhau cinio teuluol.

Dysgu Drwy Chwarae
Maes chwarae antur
Cynhwysyn hanfodol ar gyfer unrhyw ddiwrnod allan gyda’r teulu! Gall y plant redeg yn wyllt ym maes chwarae antur CyDA sydd wedi ei leoli nid nepell o’r caffi.

Crwydro o gwmpas llwybr y chwarel

Megan y Wahadden
Gwyliau’r Haf
Ni fyddwn yn cynnal ein hamrywiaeth arferol o weithgareddau ymarferol i’r teulu yn ystod gwyliau’r haf eleni. Mae hyn yn rhan o’n mesurau COVID-19 i helpu i ddiogelu ein staff a’n hymwelwyr. Cadwch lygad ar ein tudalennau gwe am wybodaeth ynghylch Hanner Tymor yr Hydref.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.